CROESO
Fferm Wynt Mynydd Y Betws ESB
Ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol rhwng 16 Medi a 14 Hydref 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn cynnal dwy arddangosfa gyhoeddus lle gallwch ddysgu am ein cynlluniau, cyfarfod â’r tîm, gofyn cwestiynau a rhoi adborth.
- Neuadd Mynach, Cwmtirmynach, Y Bala LL23 7EB 3 – 7pm, dydd Gwener 27 Medi 2024
- Canolfan Bro Tegid, 32 Stryd Fawr, Y Bala LL23 7AG 10am – 2pm, dydd Sadwrn 28 Medi 2024
Ewch i’n tudalen Ymgynghoriad Anffurfiol lle gallwch weld byrddau gwybodaeth, cwestiynau cyffredin a rhoi eich adborth gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar-lein.
Mae Coriolis Energy ac ESB yn cynnig fferm wynt ar y tir newydd yng ngogledd Cymru sydd â’r potensial i gyflenwi digon o ynni adnewyddadwy i bweru dros 55,000 o gartrefi[1], sy’n fwy na holl aelwydydd Gwynedd[2].
Mae safle Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach tua 3.5km i’r gogledd o’r Bala. Mae’r cynnig yn cynnwys hyd at 11 tyrbin, a allai gynhyrchu hyd at 79.2 MW o ynni adnewyddadwy.
[1] 1 x 7.2MW x 8760 awr/blwyddyn x 26.34% ffactor capasiti = 182,744.813 MWh/blwyddyn wedi’i rannu â defnydd domestig cyfartalog Prydain 3,239kWh/blwyddyn = 56,420 cartref (ystadegau DESNZ/DUKES)
[2] Cyfeiriad: Gwynedd = 51,105 aelwyd (Statscymru.llyw.cymru: Aelwydydd sydd ag o leiaf un preswylydd arferol yn ôl yr awdurdod lleol – Cyfrifiad 2021)
Gan y byddai Fferm Wynt Foel Fach yn darparu dros 10 MW o ynni glân, adnewyddadwy, fe’i diffinnir fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Bydd y cais cynllunio’n cael ei wneud i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, a fydd yn archwilio’r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru, a fydd wedyn yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae cynyddu’r cyflenwad o ynni adnewyddadwy’n allweddol i leihau allyriadau carbon. Os caiff ei chaniatáu, byddai Fferm Wynt Foel Fach yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gyrraedd sero net erbyn 2050 a chyrraedd yr hyn sy’n cyfateb i 100% o’i defnydd trydan blynyddol o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
Rydym yng nghamau cynnar datblygu ein cynlluniau ar gyfer Fferm Wynt Foel Fach. Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y cynnig a’r ymgynghoriad cyhoeddus sydd i ddod, lle rydym yn edrych ymlaen at glywed barn trigolion lleol, grwpiau cymunedol, cynrychiolwyr gwleidyddol ac ymgyngoreion arbenigol.
Amserlen
Dyma ni – Gwanwyn/haf
2024
Cychwyn y prosiect, arolygon ymchwiliol cynnar a chwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA). Siarad â rhanddeiliaid allweddol.
Dechrau hydref
2024
Ymgynghoriad cymunedol ar gynlluniau drafft cyfnod cynnar
Gaeaf
2024
Arolygon ac asesiadau pellach, adolygu adborth a mireinio ein cynlluniau drafft
Gwanwyn
2025
Ymgynghoriad statudol cyn ymgeisio ar y Datganiad Amgylcheddol drafft, digwyddiadau ymgynghori cymunedol ac adolygiad o’r adborth
Gaeaf
2025
Cyflwyno cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
2026
Disgwylir penderfyniad gan Weinidogion Cymru
Amdanom ni
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gan Coriolis Energy ac ESB.
Mae Coriolis Energy yn ddatblygwr ynni gwynt profiadol, proffesiynol, sydd wedi cyflawni prosiectau ledled y DU sydd wrthi’n dod â buddion i gymunedau a’r amgylchedd.
ESB yw prif gwmni ynni Iwerddon ac mae’n gynhyrchydd pŵer annibynnol blaenllaw yn y DU, wedi ymrwymo i fuddsoddi yn adnoddau naturiol Cymru.