Datganiad Preifatrwydd
Drwy lenwi’r ffurflen hon rydych yn cytuno y gall Coriolis Energy ac ESB gadw a phrosesu eich data personol mewn perthynas â’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Bydd Coriolis Energy ac ESB ond yn rhannu eich data personol gyda chwmnïau o fewn tîm prosiect Foel Fach, ac mewn rhai amgylchiadau, ymgynghorwyr penodol y prosiect, at ddibenion gwerthuso cynlluniau’n unig.
Ni fydd eich data personol, adnabyddadwy yn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddibenion eraill heb
eich caniatâd.
Yn dibynnu ar natur eich ymholiad/adborth, bydd Coriolis Energy ac ESB ond yn defnyddio eich data i:
- Ymateb i gwestiynau neu ymholiadau penodol a gyflwynir drwy’r porth hwn.
- Anfon diweddariadau atoch am brosiect penodol (os ydych yn rhoi eich manylion cyswllt i ni).
- Datblygu Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio (neu ddogfen debyg) am yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn a fydd yn cael ei gyflwyno i Arolygiaeth Gynllunio Cymru a/neu gyrff cynllunio perthnasol eraill; bydd hon yn ddogfen fydd ar gael i’r cyhoedd.
Bydd eich sylwadau’n ddienw, a dim ond gyda’ch caniatâd penodol y byddwn yn eich enwi yn yr adroddiadau hyn.
Os byddwch yn rhoi eich manylion cyswllt i ni, efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn mwy am unrhyw sylwadau a wnaethoch.
Bydd eich data’n cael ei storio’n unol â’r GDPR.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein Polisi Preifatrwydd trwy glicio ar y ddolen o dan ‘Preifatrwydd’ ar droedyn y wefan hon.