Cronfa Budd Cymunedol

Rydym yn falch iawn o gynnig Cronfa Budd Cymunedol flaengar o £8,000 y MW y flwyddyn (wedi’i chysylltu â’r mynegai) am oes weithredol Fferm Wynt Foel Fach (hyd at 40 mlynedd).

Rydym yn gweithio’n agos gyda Mantell Gwynedd a CVSC (Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy) i drafod ffyrdd o sicrhau bod y gronfa hon yn cael ei sefydlu’n briodol fel ei bod yn bodloni anghenion lleol, a bod y broses ymgeisio’n syml. Er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i gydweithio, mae Mantell Gwynedd, CVSC a’r Ymgeisydd (Fferm Wynt Foel Fach Cyf.), wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ar y cyd sy’n nodi sut yr hoffem gydweithio i ddarparu’r gronfa.


Cydberchnogaeth

Mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru wedi addo ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy gynnig lleiafswm cyfran perchnogaeth gymunedol o rhwng 15 a 25%, model budd lleol cyfatebol, taliad Cronfa Cyfoeth, neu ddull cyfatebol o gael buddion cymunedol ar gyfer pob prosiect ynni dros 10 MW, fel amod allweddol ar gyfer caniatâd (Plaid Cymru. 2026. Maniffesto Cymru 2026).

Pleser yw gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru i ddatblygu model perchnogaeth gymunedol lle byddai trigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol yn gallu prynu cyfranddaliadau yn y fferm wynt a derbyn elw ar eu buddsoddiad. Bydd hyd at 15% o’r prosiect ar gael ar gyfer cydberchnogaeth.