CROESO
i’r wefan ar gyfer Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach
Sut y gallai Fferm Wynt Foel Fach edrych o Gae’r Garreg
Cais cynllunio wedi’i gyflwyno ar gyfer Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach
Rydym bellach wedi cyflwyno’r cais cynllunio ar gyfer Fferm Wynt Foel Fach i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Mae hyn yn dilyn dros ddwy flynedd o waith arolygu, asesiadau o’r safle, ac ymgynghoriad cyhoeddus.
Os caiff ei gymeradwyo, gallai’r prosiect 10 tyrbin, 72 MW hwn gynhyrchu digon o drydan glân i bweru dros 68,700 o gartrefi cyffredin bob blwyddyn*.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd PEDW nawr yn adolygu ac yn dilysu’r cais. Ar ôl i’r cais gael ei ddilysu, bydd y cais cynllunio llawn ar gael i’w weld ar wefan PEDW yma, neu drwy chwilio am ‘DNS CAS-03527-H7Y5R9 – Fferm Wynt Foel Fach’ yn https://planningcasework.service.gov.wales/.
Yn y cyfamser, mae’r cais cynllunio drafft a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn y cais, yn parhau i fod ar gael i’w ddarllen yma.
Ar ôl dilysu, bydd PEDW yn cynnal ei ymgynghoriad pum wythnos ei hun lle gall ymgynghoreion statudol a phartïon â diddordeb gyflwyno sylwadau.
Bydd y cais yn cael ei ystyried gan un o arolygwyr cynllunio annibynnol PEDW, gyda’r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn seiliedig ar argymhelliad yr Arolygydd Cynllunio.
Gwybodaeth am Fferm Wynt Foel Fach
Gallai’r fferm wynt 10 tyrbin ddarparu hyd at 72 MW o drydan adnewyddadwy, digon i bweru dros 68,700 o gartrefi.1
Mae cynigion y prosiect yn cynnwys:
- Deg tyrbin gwynt (chwech gydag uchder hyd at flaen y llafnau o 220m, a phedwar gydag uchder hyd at flaen y llafnau o 200m);
- System storio ynni batri;
- Cwrt is-orsaf y prosiect;
- Offer monitro gwynt parhaol (LiDAR); a
- Seilwaith ategol cysylltiedig.
Esblygiad y Dyluniad
Mae dyluniad y fferm wynt arfaethedig wedi esblygu yn ystod y prosiect mewn ymateb i adborth ymgynghori ac arolygon technegol. Rhwng ein hymgynghoriad anffurfiol yn 2024 a’n hymgynghoriad cyn ymgeisio ddechrau 2026, gwnaethom newidiadau pwysig i’n prosiect:
- Cafodd nifer y tyrbinau ei ostwng o 11 i 10.
- Cafodd un tyrbin ei symud i leihau’r effaith weledol bosibl o’r Bala.
- Cafodd uchder pedwar tyrbin ei leihau o 220m i 200m i leihau’r effaith weledol bosibl o Barc Cenedlaethol Eryri.
[1] 72 MW x 0.36 CF x 8,760 awr/blwyddyn = 3.301MWh = 68,784 cartref cyfatebol https://www.renewableuk.com/energypulse/ukwed/ Accessed 28/10/25
Gan y byddai Fferm Wynt Foel Fach yn darparu dros 10 MW o ynni glân, adnewyddadwy, fe’i diffinnir fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Bydd y cais cynllunio yn cael ei wneud i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn archwilio’r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru, a fydd wedyn yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn un o flaenoriaethau pwysicaf Llywodraeth Cymru ac mae cynyddu’r cyflenwad o ynni adnewyddadwy’n allweddol er mwyn lleihau allyriadau carbon. Os caiff ei chaniatáu, byddai Fferm Wynt Foel Fach yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2050.
Amserlen
Gwanwyn/Haf 2024
Dechrau’r prosiect, arolygon ymchwiliol cynnar a chwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA). Siarad â rhanddeiliaid allweddol.
Medi/Hydref 2024
Ymgynghoriad cymunedol ar gynlluniau drafft cam cynnar. Digwyddiadau arddangosfeydd cyhoeddus ac adolygu adborth.
Diwedd 2024-2025
Arolygon ac asesiadau pellach, adolygu adborth, siarad â phobl leol, mireinio ein cynlluniau drafft.
Gaeaf 2025 – 2026
Ymgynghoriad statudol, cyn-ymgeisio ar y Datganiad Amgylcheddol drafft, digwyddiadau ymgynghori cymunedol ac adolygu adborth.
Medi 2026
Cyflwyno cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Diwedd 2027
Disgwylir penderfyniad gan Weinidogion Cymru.
2035 (dyddiad dangosol)
Dechrau adeiladu.
2037 (dyddiad dangosol)
Gweithredol, yn cynhyrchu trydan glân, gwyrdd
.
.
Amdanom ni


Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gan Coriolis Energy ac ESB.
Mae Coriolis Energy yn ddatblygwr ynni gwynt profiadol, proffesiynol, sydd wedi cyflawni prosiectau ledled y DU sydd wrthi’n dod â buddion i gymunedau a’r amgylchedd.
ESB yw prif gwmni ynni Iwerddon ac mae’n gynhyrchydd pŵer annibynnol blaenllaw yn y DU, wedi ymrwymo i fuddsoddi yn adnoddau naturiol Cymru.
