Lansio Ymgynghoriad Cyhoeddus Ffurfiol ar gyfer Fferm Wynt Foel Fach yng ngogledd Cymru
15 Rhagfyr 2025
Mae’r datblygwyr ynni adnewyddadwy Coriolis Energy ac ESB wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar gyfer Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach, ger y Bala, gogledd Cymru. Os caiff ei gymeradwyo, gallai’r prosiect 72 MW, 10 tyrbin hwn gynhyrchu digon o drydan glân i bweru dros 68,700 o gartrefi cyffredin bob blwyddyn*.
Bydd Fferm Wynt Foel Fach yn darparu Cronfa Budd Cymunedol o £8,000 fesul MW o gapasiti y flwyddyn am oes y prosiect. Mae Coriolis ac ESB yn gweithio gyda Mantell Gwynedd a CVSC (Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy) i sicrhau bod y gronfa wedi’i theilwra i anghenion lleol.
Mae’r datblygwyr hefyd yn cydweithio ag Ynni Cymunedol Cymru i drafod model perchnogaeth gymunedol a fyddai’n caniatáu i drigolion, busnesau a grwpiau lleol fuddsoddi yn y fferm wynt a derbyn elw ar eu buddsoddiad.
Dywedodd Louise Housecroft, Rheolwr Prosiect Fferm Wynt Foel Fach:
“Rydym ni wedi bod yn ymgysylltu â phobl leol ers dechrau’r prosiect ac rydym ni’n edrych ymlaen at gyfarfod trigolion eto yn y digwyddiadau ymgynghori. Mae pobl leol wedi bod yn dweud wrthym eu bod yn pryderu am filiau ynni, gwasanaethau lleol a newid hinsawdd, ac rydym ni’n credu bod gan brosiect Fferm Wynt Foel Fach ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r materion hyn: Rydym ni’n falch o’r gronfa budd cymunedol sy’n arwain y diwydiant rydym ni’n ei darparu i helpu achosion da lleol, ac yn llawn cyffro i fod yn gweithio ar bartneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru ar fodel cydberchnogaeth.”
Dywedodd Ben Ferguson o Ynni Cymunedol Cymru:
“Byddai cyfran ym mherchnogaeth y prosiect yn grymuso cymunedau ac yn adeiladu’n lleol. Bydd yr elw ar y gyfran sy’n eiddo i bobl leol yng ngofal pobl leol, a all benderfynu sut i ddefnyddio’r arian – boed drwy roi i elusennau lleol, darparu cyllid i sefydlu busnesau cymunedol newydd neu ddefnyddio’r arian i ddatblygu mwy o fentrau ynni cynaliadwy lleol.”
Mae Fferm Wynt Foel Fach yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2050. Ynni gwynt ar y tir yw’r ffurf fwyaf cost-effeithiol o gynhyrchu pŵer newydd yn y DU ac mae’n chwarae rhan hanfodol wrth leihau dibyniaeth ar ynni sy’n cael ei fewnforio.
Mae Coriolis wedi ymrwymo i wrando ac ymgorffori adborth cyn cyflwyno’r cais cynllunio terfynol i Weinidogion Cymru. Mae angen i ni ddatblygu ynni adnewyddadwy cartref am lawer o resymau: yng Nghymru, mae’r galw am drydan yn cynyddu’n gyflym wrth i wres a thrafnidiaeth gael eu trydaneiddio, ac wrth i’n diwydiannau ddadgarboneiddio. Mae lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, y mae llawer ohono’n dod o dramor, hefyd yn fuddiol gan ei fod yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, bydd yn sefydlogi prisiau dros amser, ac yn diogelu ein systemau ynni.