CROESO
i’r wefan ar gyfer Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach
Sut y gallai Fferm Wynt Foel Fach edrych o Gae’r Garreg
Ymgynghoriad cyn-ymgeisio ar gyfer Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol ar ein cynlluniau drafft ar gyfer Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach, fferm wynt newydd ar dir i’r gogledd-ddwyrain o Frongoch, ger y Bala.
Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg o 15 Rhagfyr 2025 i 9 Chwefror 2026. Rydym wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori statudol o 42 diwrnod am bythefnos ychwanegol i ystyried cyfnod gwyliau’r Nadolig.
Yn ystod yr ymgynghoriad rydym yn gwahodd adborth ar ein cais cynllunio drafft llawn.
Digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus
Ewch i un o’n digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus er mwyn:
- Dysgu mwy am ein cais cynllunio drafft
- Siarad â’r tîm a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych
- Gweld model 3D sy’n dangos sut olwg allai fod ar Fferm Wynt Foel Fach
| 3pm–7pm, 15 Ionawr 2026 Neuadd Mynach Cwmtirmynach Y Bala LL23 7EB | 3pm–7pm 16 Ionawr 2026 Canolfan Henblas 22-24 Stryd Fawr Y Bala LL23 7AG | 10am–2pm, 17 Ionawr 2026 Neuadd Sarnau Y Bala LL23 7LG |
Os nad ydych chi’n gallu mynychu digwyddiad yn bersonol, gallwch weld yr arddangosfa rithwir yma.
Darllenwch y Crynodeb Annhechnegol yma neu yn Llyfrgell y Bala (fersiwn fer o’r cais cynllunio)
Sut i rannu eich barn â ni
- Yn y digwyddiadau ymgynghori – bydd copïau caled o’r ffurflen adborth ar gael yn y digwyddiadau wyneb yn wyneb.
- Ar-lein – defnyddiwch y ffurflen adborth ar-lein.
Gwybodaeth am Fferm Wynt Foel Fach
Gallai’r fferm wynt 10 tyrbin ddarparu hyd at 72 MW o drydan adnewyddadwy, digon i bweru dros 68,700 o gartrefi.1
Ers ein hymgynghoriad anffurfiol yn 2024, ac mewn ymateb i adborth technegol ac arolygon, rydym wedi gwneud newidiadau pwysig i’n prosiect:
- Mae nifer y tyrbinau wedi gostwng o 11 i 10.
- Mae un tyrbin wedi’i symud i leihau’r effaith weledol bosibl o’r Bala.
- Mae pedwar tyrbin wedi’u lleihau o ran uchder o 220m i 200m i leihau’r effaith weledol bosibl o Barc Cenedlaethol Eryri.
Darllenwch gylchlythyr diweddaraf y prosiect yma.
[1] 72 MW x 0.36 CF x 8,760 awr/blwyddyn = 3.301MWh = 68,784 cartref cyfatebol https://www.renewableuk.com/energypulse/ukwed/ Accessed 28/10/25
Gan y byddai Fferm Wynt Foel Fach yn darparu dros 10 MW o ynni glân, adnewyddadwy, fe’i diffinnir fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Bydd y cais cynllunio yn cael ei wneud i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn archwilio’r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru, a fydd wedyn yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn un o flaenoriaethau pwysicaf Llywodraeth Cymru ac mae cynyddu’r cyflenwad o ynni adnewyddadwy’n allweddol er mwyn lleihau allyriadau carbon. Os caiff ei chaniatáu, byddai Fferm Wynt Foel Fach yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2050.
Amserlen
Gwanwyn/Haf 2024
Dechrau’r prosiect, arolygon ymchwiliol cynnar a chwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA). Siarad â rhanddeiliaid allweddol.
Medi/Hydref 2024
Ymgynghoriad cymunedol ar gynlluniau drafft cam cynnar. Digwyddiadau arddangosfeydd cyhoeddus ac adolygu adborth.
Diwedd 2024-2025
Arolygon ac asesiadau pellach, adolygu adborth, siarad â phobl leol, mireinio ein cynlluniau drafft.
Rydym ni yma
Gaeaf 2025
Ymgynghoriad statudol, cyn-ymgeisio ar y Datganiad Amgylcheddol drafft, digwyddiadau ymgynghori cymunedol ac adolygu adborth.
Dechrau 2026
Adolygu adborth a chwblhau ein cais cynllunio.
Gwanwyn 2026
Cyflwyno cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
2027
Disgwylir penderfyniad gan Weinidogion Cymru.
2035 (dyddiad dangosol)
Dechrau adeiladu.
2037 (dyddiad dangosol)
Gweithredol, yn cynhyrchu trydan glân, gwyrdd
Amdanom ni


Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gan Coriolis Energy ac ESB.
Mae Coriolis Energy yn ddatblygwr ynni gwynt profiadol, proffesiynol, sydd wedi cyflawni prosiectau ledled y DU sydd wrthi’n dod â buddion i gymunedau a’r amgylchedd.
ESB yw prif gwmni ynni Iwerddon ac mae’n gynhyrchydd pŵer annibynnol blaenllaw yn y DU, wedi ymrwymo i fuddsoddi yn adnoddau naturiol Cymru.
