Mae Coriolis Energy ac ESB yn ceisio datblygu fferm wynt yng ngogledd Cymru, sef Fferm Wynt Foel Fach.

Y safle

Mae safle’r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli tua 3.5 km i’r gogledd o dref y Bala yng Ngwynedd.

Mae mwyafrif y safle’n dir mynediad agored, gydag ardaloedd o dir amaethyddol. Mae’r ardal yn weundir pori agored gyda rhai ardaloedd coediog.

Mae’r lleoliad yn cynrychioli darpar safle da ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt ar y tir am nifer o resymau gan gynnwys ei fod yn rhydd o ddynodiadau tirwedd ac amgylcheddol a warchodir yn genedlaethol neu’n rhyngwladol, a’i fod yn ardal fawr gydag adnodd gwynt da, wedi’i wahanu’n dda oddi wrth gymunedau cyfagos.

Mae ein cynigion ar gyfer y prosiect yn cynnwys

  • Hyd at 11 tyrbin o hyd at 220m o uchder i flaen y llafnau
  • Hyd at 79.2 MW o gynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • Traciau mynediad ar y safle
  • Storio ynni batris
  • O leiaf un mast anemometreg parhaol
  • Pyllau benthyg (lle bo’n ymarferol)
  • Trawsnewidyddion a cheblau tanddaearol
  • Is-orsaf/adeilad rheoli ar y safle
  • O leiaf un cwrt adeiladu dros dro

Gallai Fferm Wynt Foel Fach

79.2MW

Cynhyrchu

hyd at 79.2 MW o drydan adnewyddadwy y flwyddyn, sy’n cyfateb i anghenion blynyddol dros 55,000 o gartrefi cyfartalog yn y DU neu dros 100% o aelwydydd Gwynedd
£8000

Darparu

Cronfa Budd Cymunedol flaengar o £8,000 y MW y flwyddyn am oes weithredol y prosiect (hyd at 40 mlynedd)

Sicrhau Budd Net i Fioamrywiaeth trwy Gynllun Rheoli Cynefinoedd y cytunir arno

Cynnig cynllun perchnogaeth leol lle gall pobl leol fod yn berchen ar gyfran yn y fferm wynt

Cynnig cyfleoedd swyddi a chadwyn gyflenwi lleol yn ystod y cyfnod adeiladu a gweithredu

Ymgysylltu cymunedol

Megis dechrau datblygu ein cynlluniau rydym ni. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn yr hydref eleni ac yn bwriadu cynnal yr ymgynghoriad statudol cyn ymgeisio yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf. Yn ystod yr ymgynghoriadau, byddwn yn diweddaru’r wefan gyda’n cynlluniau, yn anfon gwybodaeth i gartrefi ger y safle ac yn cynnal arddangosfeydd cyhoeddus i chi gwrdd â thîm y prosiect, dysgu mwy a rhoi adborth.

Rydym yn croesawu adborth ac ymholiadau unrhyw bryd. Ewch i’r dudalen Cysylltwch â ni i gysylltu â thîm y prosiect.

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol

Rydym wedi bod yn cynnal arolygon ac asesiadau cychwynnol i lywio ein Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA). Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn ddiweddarach eleni a bydd yr AEA drafft yn cael ei gyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Mae ein cynlluniau cynnar yn cynnwys

Ystyried yn ofalus effaith bosibl y prosiect ar y dirwedd. Mae uchafswm uchder blaen llafn o 220m yn cael ei ystyried, fodd bynnag bydd uchder terfynol a manyleb pob tyrbin yn cael eu pennu wrth i’r broses ddylunio fynd yn ei blaen a gellir eu hamrywio i greu dyluniad cydlynol gweledol.

Gan fod y safle wedi’i leoli’n rhannol ar dir comin, bydd cais eilaidd am Ganiatâd Tir Comin o dan Ddeddf Tir Comin 2016 yn cael ei wneud. Bydd y cais yn cynnig tir amnewid yn gyfnewid am dir a ddefnyddir gan y datblygiad.

Rydym yn casglu data am y rhywogaethau a’r cynefinoedd ar y safle trwy ein harolygon ecoleg ac adareg. Byddwn yn datblygu Cynllun Rheoli Cynefinoedd a fydd yn manylu ar sut y byddwn yn gofalu am y rhywogaethau a’r cynefinoedd ar y safle yn ystod cyfnod adeiladu a gweithredu’r fferm wynt. Bydd Fferm Wynt Foel Fach yn darparu Budd Net i Fioamrywiaeth dros oes y prosiect, gan wella bioamrywiaeth ar y safle.

Bydd ein harolygon hydroleg a hydroddaeareg yn asesu cyrsiau dŵr ar y safle ac yn nodi ardaloedd o fawn ar y safle.

Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr treftadaeth i arolygu’r ardal a nodi asedau o fewn ac o amgylch y safle.

Disgwylir y bydd mynediad i’r safle o’r gorllewin ar hyd yr A4212/B4501. Bydd Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu yn cynnig mesurau i reoli danfon deunyddiau a staff i’r safle yn ystod y cyfnod adeiladu.

Bydd yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol ar y safle yn cael eu cadw cyn belled ag y bo modd, gan alluogi defnyddwyr i barhau i fwynhau’r ardal.

Bydd cysylltiad Fferm Wynt Foel Fach â’r Grid Cenedlaethol yn ffurfio cais cynllunio ar wahân.

Buddion cymunedol

Rydym wedi ymrwymo i gynnig Cronfa Budd Cymunedol flaengar o £8,000 y MW y flwyddyn am oes weithredol Fferm Wynt Foel Fach (hyd at 40 mlynedd). Byddwn yn gweithio gyda’r gymuned i archwilio ffyrdd o sicrhau bod y gronfa hon yn cael ei sefydlu’n briodol fel ei bod yn cwrdd ag anghenion lleol, y gellir ei chyrchu’n hawdd, a’i bod yn cael ei darparu mewn ffordd syml. Rydym yn croesawu eich barn ar sut y gellir datblygu hyn i sicrhau cymaint o fudd lleol â phosibl.

Bydd Fferm Wynt Foel Fach yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru o 1.5 GW o ynni adnewyddadwy i fod o dan berchnogaeth leol a rhanberchnogaeth erbyn 2035.

Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Ripple Energy gyda’r nod o ddatblygu model perchnogaeth gymunedol arloesol. Byddai trigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol yn gallu prynu cyfranddaliadau yn y fferm wynt a chael arbedion ar eu biliau trydan trwy gydol oes weithredol y fferm wynt. Bydd rhagor o fanylion am y cyfle yn cael eu cyflwyno wrth i’n cynigion ddatblygu.

Rydym yn awyddus i sicrhau, lle bynnag y bo modd, bod y gadwyn gyflenwi leol yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom ar gyfer y prosiect hwn. Byddwn yn cysylltu â’r gymuned fusnes leol yn ddiweddarach eleni ac yn darparu rhagor o wybodaeth am y gadwyn gyflenwi a chyfleoedd buddsoddi economaidd mewn diweddariadau yn y dyfodol. Os ydych yn fusnes lleol sydd â diddordeb mewn bod yn ddarpar gyflenwr i ni, llenwch y ffurflen Cysylltwch â Ni a thiciwch y blwch i ddweud bod gennych ddiddordeb yn y gadwyn gyflenwi.

Os oes gennych unrhyw farn am y manteision ychwanegol y gallai Fferm Wynt Foel Fach eu darparu, rhowch wybod i ni.

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i atebion i Gwestiynau Cyffredin isod.

Mae’n ymddangos bod llawer o ffermydd gwynt yn cael eu cynnig yn yr ardal. Pam?

Mae’r ardal yn dda ar gyfer gwynt ar y tir – mae mewn rhan orllewinol, fryniog o Gymru; mae’n wyntog iawn, yn anghysbell, ac mae ganddo fynediad cymharol dda. Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel ar raddfa fawr i gwrdd â’n hanghenion ynni yn y dyfodol. Wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy, rhaid i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau roi cryn bwys ar yr angen i gyflawni ymrwymiadau rhyngwladol Cymru a’r targed i gynhyrchu 70% o drydan a ddefnyddir drwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030 (yn codi i 100% erbyn 2035) er mwyn brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

Pam na wnewch chi roi’r tyrbinau gwynt ar y môr?

Mae angen inni osod amrywiaeth o dechnolegau adnewyddadwy a charbon isel er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sicrhau cyflenwadau ynni sefydlog ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys gwynt ar y tir, gwynt ar y môr, solar, batris (storio), llanw a mwy. Mae gan wynt ar y tir lawer o fanteision – dyma un o’r mathau rhataf o gynhyrchu ynni ac mae’n gymharol syml i’w osod. Mae gwynt ar y tir bellach yn cael ei hystyried yn dechnoleg aeddfed, sydd wedi’i phrofi, ac mae wedi cyflawni datblygiadau technegol sylweddol sydd wedi gwella effeithlonrwydd, lleihau sŵn, a lleihau costau.

Bydd mwy o wynt ar y tir yn gostwng biliau trydan trwy leihau ein dibyniaeth ar nwy wedi’i fewnforio, y mae ei bris yn cael ei bennu’n rhyngwladol ac yn gyfnewidiol o ganlyniad i, er enghraifft, y rhyfel yn Wcrain.

Sut byddai’r fferm wynt yn effeithio ar y dirwedd?

Bydd ein Hasesiad o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol yn ystyried yn ofalus effaith weledol bosibl y cynnig o wahanol ardaloedd. Rydym eisiau adeiladu tyrbinau hyd at 220 metr o uchder hyd at flaen y llafnau. Mae defnyddio tyrbinau mwy yn golygu y gall pob tyrbin gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, sy’n lleihau nifer y tyrbinau sydd eu hangen ar gyfer yr un faint o ynni.

Byddwn yn cynnal asesiad effaith cronnol o’r datblygiad arfaethedig mewn perthynas â ffermydd gwynt presennol a ffermydd gwynt eraill a gymeradwywyd yn yr ardal. Pan fydd yr Arolygydd Cynllunio yn ystyried y cais cynllunio, mae’r effaith gronnol bosibl yn un o nifer o ystyriaethau perthnasol.

Ble byddai’r trydan yn mynd? A fyddai’n mynd i Loegr?

Byddai’r trydan a gynhyrchir yn Fferm Wynt Foel Fach yn mynd i’r Grid Cenedlaethol sy’n trawsyrru trydan ar draws y DU gyfan. Gallai trydan o Foel Fach gael ei ddefnyddio’n lleol neu mewn rhannau eraill o’r DU – yn dibynnu ar ble mae’r galw.

Bydd y cysylltiad o Fferm Wynt Foel Fach i’r Grid Cenedlaethol yn ffurfio cais cynllunio ar wahân.

A fyddai pobl leol yn cael arian oddi ar eu biliau trydan o ganlyniad i’r fferm wynt?

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Ripple Energy i ddatblygu model perchnogaeth gymunedol arloesol, lle byddai trigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol yn gallu prynu cyfranddaliadau yn y fferm wynt a chael elw ar ffurf arbedion ar eu biliau trydan.

A oes cefnogaeth i brosiectau ynni adnewyddadwy?

Mae cefnogaeth eang i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy yn yr ardal leol. Canfu arolwg RenewableUK a gynhaliwyd yn 2022 fod 74% o ymatebwyr yn Nwyfor Meirionnydd yn cefnogi cynhyrchu ynni gwynt ar y tir, tra bod arolwg tracio agweddau cyhoeddus diweddaraf gwanwyn 2024 DESNZ yn canfod bod 78% o bobl ledled y DU yn cefnogi datblygiadau gwynt ar y tir.

A oes gennych hawl i adeiladu fferm wynt yn agos at Barc Cenedlaethol Eryri?

Mae’r tyrbin agosaf ar ein cynllun dangosol 1.9 km o ffin Parc Cenedlaethol Eryri. Nid yw datblygiadau wedi’u gwahardd yn yr ardal, fodd bynnag bydd ein Hasesiad o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol yn asesu golygfeydd posibl o’r parc cenedlaethol yn ofalus ac yn ystyried unrhyw effaith bosibl ar ei statws Awyr Dywyll Rhyngwladol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ymgynghorai statudol pwysig.

Beth sy’n digwydd pan nad yw’n wyntog?

Bydd faint o drydan a gynhyrchir gan dyrbinau gwynt yn amrywio yn dibynnu ar lefel y gwynt. Mae ein cynnig yn cynnwys storfa ynni batris ar y safle a fydd yn storio ynni yn ystod cyfnodau o gynhyrchu uchel ac yn ei ryddhau i’r grid pan fydd cynhyrchiant yn is.

Rhagwelir y bydd y defnydd o drydan yng Nghymru bron â threblu erbyn 2050 oherwydd trydaneiddio gwres a thrafnidiaeth. Bydd cael cymysgedd ynni o wahanol ddulliau cynhyrchu ynni yn helpu sicrhau bod cyflenwad cyson o drydan i ateb y galw cynyddol.

A fydd y prosiect yn effeithio ar natur a bywyd gwyllt?

Wrth i ni ddatblygu ein cynnig, byddwn yn cynnal amrywiaeth eang o arolygon ecolegol ac adaregol o fewn ac o amgylch y safle. Byddwn yn nodi’r mesurau y byddwn yn eu rhoi ar waith yn ystod y cyfnod adeiladu (mewn Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu) a thros oes weithredol y fferm wynt (mewn Cynllun Rheoli Cynefinoedd) i ofalu am natur y safle a’i wella, a chyflawni Budd Net cyffredinol i Fioamrywiaeth.

Beth fyddwch chi’n ei wneud i warchod mawn ar y safle?

Rydym wedi cynnal arolwg dyfnder mawn cychwynnol i asesu presenoldeb mawn ar hyd a lled y safle. Bydd astudiaethau pellach yn canolbwyntio ar ddyfnder mawn mewn ardaloedd lle cynigir seilwaith, a fydd yn ein galluogi i leihau effeithiau posibl ar yr ardaloedd hyn yn ein dyluniad ar gyfer cynllun y safle lle bynnag y bo modd.

A fydd unrhyw effeithiau ar fynediad cyhoeddus i’r safle?

Mae’r rhan fwyaf o’r tir o fewn y safle yn dir Mynediad Agored Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, ac mae nifer o Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) yn bresennol o fewn y safle ac yn agos ato. Nod ein cynllun dangosol tyrbinau yw osgoi lleoli seilwaith sy’n agos at HTC lle bo modd. Rydym yn disgwyl y bydd cyn lleied â phosibl o darfu ar ddefnyddwyr HTC a, lle bo angen eu cau, mae’n debygol o fod yn y tymor byr a thros dro. Bydd unrhyw newidiadau o’r fath i HTC yn cael eu cytuno mewn ymgynghoriad â Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Gwynedd er mwyn ceisio sicrhau bod dargyfeiriadau neu ffyrdd eraill yn eu lle.

Pa effaith a gaiff y cynnig ar yr ardaloedd o dir comin?

Mae’r safle wedi’i leoli’n rhannol ar dir comin, a bydd cais eilaidd am Ganiatâd Tir Comin yn cael ei wneud o dan y Ddeddf Tiroedd Comin. Bydd y cais yn cynnig tir amnewid yn gyfnewid am dir a ddefnyddir gan y datblygiad arfaethedig. Ni fyddai unrhyw dir comin yn cael ei golli o ganlyniad i’r fferm wynt. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r rhai sy’n defnyddio eu hawliau pori ar y comin i sicrhau nad yw eu buddiannau busnes yn cael eu peryglu.

Sut bydd y tyrbinau yn cyrraedd y safle?

Rydym yn ystyried nifer o opsiynau gwahanol ar gyfer llwybr i gludo cydrannau a mynediad adeiladu i’r safle. Bydd mynedfa’r safle wedi ei lleoli i’r gorllewin o’r safle o’r B4501. Byddwn yn cytuno ar Gynllun Rheoli Traffig Adeiladu gyda’r awdurdodau priffyrdd lleol a fydd yn cynnig mesurau i reoli’r broses o gludo deunyddiau a staff i’r safle yn ystod y cyfnod adeiladu.

A yw ffermydd gwynt yn effeithio ar dwristiaeth?

Mae tystiolaeth amhendant i ddangos bod ffermydd gwynt yn cael effaith andwyol ar dwristiaeth. Daeth adroddiad yn 2014 ar gyfer Llywodraeth Cymru gan Regeneris Consulting a The Tourism Company[1] i’r casgliad bod yr effaith ar dwristiaeth o ddatblygiadau ffermydd gwynt yn gyfyngedig iawn, gydag astudiaethau achos yn datgelu dim tystiolaeth o effeithiau sylweddol ar dwristiaeth. Datgelodd yr astudiaeth hefyd fod gan pobl sy’n ymweld ag ardaloedd â ffermydd gwynt naill ai farn gadarnhaol neu niwtral am ddatblygiadau ffermydd gwynt.

[1] Regeneris a The Tourism Company. ‘Study into the Potential Economic Impact of Wind Farms and Associated Grid Infrastructure on the Welsh Tourism Sector’ (2014)

A allai’r fferm wynt effeithio ar brisiau tai lleol?

Nid oes llawer o ymchwil diweddar yn y DU yn y maes hwn ac mae astudiaethau presennol yn dangos tystiolaeth amhendant o ffermydd gwynt yn effeithio ar brisiau tai lleol. Ni chanfu astudiaeth yn 2016 gan climateXchange ar effaith tyrbinau gwynt ar brisiau tai yn yr Alban[2] unrhyw dystiolaeth o effaith negyddol gyson ar brisiau tai.

[2] climateXchange. ‘Impact of wind turbines on house prices in Scotland’ (2016)

Beth sy’n digwydd pan fydd y tyrbinau wedi cyrraedd diwedd eu hoes?

Mae ein cynigion yn rhagweld y byddai gan Fferm Wynt Foel Fach oes weithredol o hyd at 40 mlynedd. Ar hyn o bryd, gellir ailgylchu cymaint â 90% o dyrbin gwynt yn hawdd, oherwydd mai dur yw ei brif gydran. Mae’n bosibl ailgylchu’r 10% sy’n weddill, sy’n ymwneud â rhannau o’r llafnau ar y cyfan, ac er nad yw hyn yn gyffredin ar hyn o bryd, rhagwelwn erbyn i Fferm Wynt Foel Fach gael ei datgomisiynu, y bydd datblygiadau technolegol yn golygu y bydd yn bosibl  ailgylchu 100% o gydrannau’r tyrbin.