Cais cynllunio wedi’i gyflwyno ar gyfer Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach
7 Medi 2026
Rydym bellach wedi cyflwyno’r cais cynllunio ar gyfer Fferm Wynt Foel Fach i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Rydym hefyd wedi gwneud cais am ganiatâd o dan Adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i ddadgofrestru a chyfnewid tir comin. Mae hyn yn dilyn sawl blwyddyn o waith arolygu, asesiadau o’r safle, ac ymgynghori â’r cyhoedd.
Os caiff ei gymeradwyo, gallai’r prosiect 10 tyrbin, 72 MW hwn gynhyrchu digon o drydan glân i bweru dros 68,700 o gartrefi cyffredin bob blwyddyn*.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd PEDW nawr yn adolygu ac yn dilysu’r cais. Ar ôl i’r cais gael ei ddilysu, bydd y cais cynllunio llawn ar gael i’w weld ar wefan PEDW, neu drwy chwilio am ‘DNS CAS-03527-H7Y5R9 – Foel Fach Wind Farm’ yn https://planningcasework.service.gov.wales/.
Yn y cyfamser, mae’r cais cynllunio drafft a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn y cais, yn parhau i fod ar gael i’w ddarllen yma.
Ar ôl dilysu, bydd PEDW yn cynnal ei ymgynghoriad pum wythnos ei hun lle gall ymgynghoreion statudol a phartïon â diddordeb gyflwyno sylwadau.
Bydd y cais yn cael ei ystyried gan un o arolygwyr cynllunio annibynnol PEDW, gyda’r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn seiliedig ar argymhelliad yr Arolygydd Cynllunio.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm y prosiect drwy’r dudalen Cysylltu.