Mae’r datblygwyr ynni adnewyddadwy Coriolis Energy ac ESB wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn datblygu cynnig ar gyfer fferm wynt newydd ger Y Bala yng Ngwynedd, gogledd Cymru.

Mae’r cynnig yn cynnwys hyd at 11 tyrbin, a allai gyflenwi hyd at 79.2 MW, sy’n cyfateb i anghenion blynyddol dros 55,000 o aelwydydd cyffredin*.

Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae cynyddu’r cyflenwad o ynni adnewyddadwy’n allweddol i leihau allyriadau carbon. Os caiff ei chaniatáu, byddai Fferm Wynt Foel Fach yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2050 ac i gyrraedd yr hyn sy’n cyfateb i 100% o’i defnydd trydan blynyddol o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Mae gwynt ar y tir yn chwarae rhan hollbwysig yng nghymysgedd ynni’r DU, gan mai dyma’r ffordd rataf o gynhyrchu pŵer newydd yn y DU a darparu sicrwydd ynni drwy leihau’r ddibyniaeth ar ynni sy’n cael ei fewnforio o wledydd eraill.

Bydd Coriolis ac ESB yn darparu Cronfa Budd Cymunedol flynyddol flaengar o £8,000 y MW am oes weithredol y fferm wynt. Mae opsiynau i bobl leol fod yn berchen ar gyfran yn Fferm Wynt Foel Fach hefyd yn cael eu trafod, fel rhan o ymrwymiad gan Coriolis ac ESB i fodloni dyhead polisi Llywodraeth Cymru i bob prosiect ynni newydd fod ag elfen o berchnogaeth leol a chydberchnogaeth.

Dywedodd Clare Dance, Rheolwr Datblygu Prosiect Fferm Wynt Foel Fach,

“Rydym yng nghamau cynnar datblygu ein cais cynllunio ar gyfer Foel Fach ac mae ein hasesiadau cychwynnol yn dangos bod hwn yn safle da ar gyfer fferm wynt. Ar adeg pan fo newid hinsawdd a’r angen am fwy o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn amlwg, byddai Foel Fach yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflawni targedau sero net Llywodraeth Cymru. Mae gennym hefyd gynlluniau i wella cynefinoedd ar y safle i helpu bioamrywiaeth.

“Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, fel y gall trigolion gwrdd â’r tîm a darganfod mwy am ein cynlluniau. Byddwn hefyd yn dechrau trafodaethau gyda grwpiau yn yr ardal sydd â diddordeb yn y gronfa gymunedol, yn ogystal â chwmnïau a chontractwyr a hoffai ddysgu mwy am gontractau a chyfleoedd am swyddi.

“Rydym yn archwilio cyfleoedd i gynnig cydberchnogaeth arloesol lle byddai pobl leol yn gallu bod yn berchen ar gyfran o’r fferm wynt yn gyfnewid am arbedion ar eu biliau trydan. Bydd rhagor o wybodaeth am sut y byddai hyn yn gweithio yn cael ei rhannu mewn diweddariadau yn y dyfodol.”

Bydd Coriolis ac ESB yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol ar Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach yn hydref 2024, gyda’r ymgynghoriad cyn ymgeisio statudol i’w gynnal yn ystod gwanwyn 2025. Disgwylir i’r cais cynllunio gael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn ddiweddarach yn 2025 a byddai’r penderfyniad gan Weinidogion Cymru i’w ddisgwyl yn 2026.26.