Mae’r datblygwyr ynni adnewyddadwy Coriolis Energy ac ESB yn gwahodd pobl leol i roi adborth ar eu cynlluniau ar gyfer Fferm Wynt Foel Fach, a allai gyflenwi digon o drydan glân, gwyrdd i gwrdd ag anghenion dros 55,000 o gartrefi cyffredin bob blwyddyn* – mwy na holl aelwydydd Gwynedd.

Mae trigolion sy’n byw ger safle arfaethedig Foel Fach, tua 3.5 km i’r gogledd o’r Bala, yn cael cyfle i ddysgu mwy am y cynnig mewn arddangosfeydd cyhoeddus lleol.

Mae’r cynnig yn cynnwys hyd at 11 tyrbin, a allai gyflenwi hyd at 79.2 MW, ac mae’n dod ar adeg o fwy o ymwybyddiaeth o newid hinsawdd gyda thywydd mwy a mwy eithafol o ganlyniad i gynhesu byd-eang o waith dyn.

Mae Llywodraeth newydd y DU wedi addo dyblu ynni gwynt ar y tir yn y DU ochr yn ochr â chynnydd enfawr yn y defnydd o dechnolegau adnewyddadwy eraill, fel solar a gwynt ar y môr. Rhagwelir y bydd y galw am drydan bron â threblu wrth i ni ddatgarboneiddio’r economi a symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil niweidiol.

Dywedodd Clare Dance, Rheolwr Prosiect Fferm Wynt Foel Fach, “Megis dechrau mae ein cynlluniau, felly mae hwn yn amser gwych i’r gymuned rannu eu barn â ni. Rydym yn awyddus i glywed gan drigolion ac rydym wedi ymrwymo i ystyried adborth lle bynnag y bo modd.

Rydym yn cynnig Cronfa Budd Cymunedol arloesol o £8,000 fesul MW ac yn edrych ymlaen at glywed syniadau am y ffordd orau o ddefnyddio hon er budd yr ardal leol. Rydym hefyd yn falch o weithio gyda Ripple Energy ar gynlluniau ar gyfer y cynnig cyffrous cyntaf o’i fath hwn am gydberchnogaeth, y gobeithiwn allu darparu mwy o wybodaeth amdano dros y misoedd nesaf.

“Gallai Fferm Wynt Foel Fach wneud cyfraniad sylweddol tuag at dargedau Llywodraeth Cymru i gyrraedd yr hyn sy’n cyfateb i 100% o ddefnydd trydan blynyddol Cymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2035, yn ogystal â thargedau ar gyfer 1.5GW o gydberchnogaeth gymunedol.”

Mae Coriolis Energy ac ESB yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ar Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach rhwng 16 Medi a 14 Hydref 2024.

Mae’r arddangosfeydd cyhoeddus yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

• 3 – 7pm, Dydd Gwener 27 Medi 2024, Neuadd Mynach, Cwmtirmynach, Y Bala LL23 7EB

• 10am – 2pm, Dydd Sadwrn 28 Medi 2024, Canolfan Bro Tegid, 32 Stryd Fawr, Y Bala LL23 7AG

Mae disgwyl i ymgynghoriad cyn ymgeisio ar Fferm Wynt Foel Fach gael ei gynnal yng nghanol 2025.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y prosiect www.foelfach.cymru