Cronfa Budd Cymunedol

Rydym yn falch iawn o gynnig Cronfa Budd Cymunedol flaengar o £8,000 y MW y flwyddyn (wedi’i chysylltu â’r mynegai) am oes weithredol Fferm Wynt Foel Fach (hyd at 40 mlynedd).

Rydym yn gweithio gyda Mantell Gwynedd a CVSC (Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy) i drafod ffyrdd o sicrhau bod y gronfa hon yn cael ei sefydlu’n briodol fel ei bod yn bodloni anghenion lleol, a bod y broses ymgeisio’n syml.


Cydberchnogaeth

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i 1.5 GW o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu fod mewn perchnogaeth leol neu gydberchnogaeth erbyn 2035.

Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru gyda’r nod o ddatblygu model perchnogaeth gymunedol lle byddai trigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol yn gallu prynu cyfranddaliadau yn y fferm wynt a derbyn elw ar eu buddsoddiad.