Pam gwynt ar y tir?

Un o’r prif yrwyr ar gyfer datblygu prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yw newid hinsawdd.

Rydym ar bwynt tyngedfennol. Tymheredd cyfartalog byd-eang y flwyddyn hyd yn hyn (Ionawr-Awst 2024) yw’r uchaf a gofnodwyd erioed ar gyfer y cyfnod hwn ac mae’n fwyfwy tebygol mai 2024 fydd y flwyddyn gynhesaf a gofnodwyd erioed [1].

Ym mis Ebrill 2019, datganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd, ac ers hynny mae wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan argyfwng hinsawdd a natur ac yn anelu at fod yn gyngor sero net erbyn 2030.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i sicrhau 100% o ddefnydd trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Yn 2022, daeth 59% o ddefnydd trydan blynyddol Cymru o ffynonellau adnewyddadwy[2].

Disgwylir i’r galw am drydan gynyddu, a rhagwelir y bydd y defnydd o drydan yng Nghymru bron â threblu erbyn 2050 oherwydd trydaneiddio gwres a thrafnidiaeth[3].

Ein nod yw gwneud cyfraniad sylweddol tuag at gyflawni’r targedau hinsawdd hyn a lleihau allyriadau drwy ddarparu Fferm Wynt Foel Fach.

Carbon Isel

Mae datblygiadau mewn technoleg tyrbinau’n galluogi’r prosiect i sicrhau manteision amgylcheddol sylweddol o ôl troed llai fyth, trwy wrthbwyso allyriadau CO2 o gynhyrchu trydan o danwydd ffosil.

Cost Is

Ynni gwynt ar y tir yw’r math rhataf o gynhyrchu pŵer newydd yn y DU erbyn hyn, gan helpu i reoli biliau ynni defnyddwyr yn y dyfodol. Bydd cynyddu cynhyrchiant trydan adnewyddadwy yn ddomestig yn lleihau ein dibyniaeth ar gyflenwadau ynni sy’n cael eu mewnforio – sy’n aml yn dod o gyfundrefnau ansefydlog – a bydd hyn yn sefydlogi ac yn lleihau costau dros amser.

Sicrwydd Ynni

Mae gan wynt ar y tir ran allweddol i’w chwarae yng nghymysgedd ynni’r DU.

Mae gwynt yn adnodd adnewyddadwy sefydlog, nad yw’n cael ei effeithio gan faterion cyflenwi sy’n gysylltiedig â thrydan wedi’i fewnforio. Yn ogystal, gyda’r posibilrwydd o ymgorffori technoleg storio ynni, efallai y bydd y cynllun hefyd yn gallu cynnig gwasanaethau sefydlogi’r grid i’r Grid Cenedlaethol. Byddai hyn yn sicrhau bod cymunedau a busnesau ar draws y rhanbarth yn parhau i dderbyn capasiti, amlder a foltedd cyflenwad sefydlog.

MAE GAN LYWODRAETH CYMRU DARGED I GYFLAWNI 100% O DDEFNYDD CYMRU O DRYDAN O FFYNONELLAU ADNEWYDDADWY ERBYN 2035