Sut y gallai Fferm Wynt Foel Fach edrych o’r llwybr troed ym Mryn-yr-Hydd

Pam mae angen gwynt ar y tir arnom?

Mae angen mwy o drydan arnom!

Rhagwelir y bydd y defnydd o drydan yng Nghymru bron â threblu erbyn 2050[1] oherwydd trydaneiddio gwres a thrafnidiaeth, a’n dibyniaeth gynyddol ar ganolfannau data i fodloni ein ffyrdd o fyw digidol.

Cost is

Mae ynni gwynt ar y tir yn un o’r dulliau cyflymaf a rhataf o gynhyrchu trydan.

Mae llawer o’r trydan rydym yn dibynnu arno yn y DU yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio nwy wedi’i fewnforio, y mae ei bris yn cael ei osod yn fyd-eang, y tu hwnt i’n rheolaeth. Mae ymchwil diweddar gan Goleg Prifysgol Llundain wedi dangos, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fod pŵer gwynt wedi arwain at brisiau trydan is i ddefnyddwyr2.

Diogeledd ynni

Mae cynyddu ein ffynonellau cynhyrchu trydan domestig yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni wedi’i fewnforio. Mae ynni wedi’i fewnforio’n destun amrywiadau mawr mewn prisiau a chyflenwad oherwydd cost fyd-eang olew, a digwyddiadau geo-wleidyddol.

Cymysgedd ynni

Mae angen “cymysgedd” o ffynonellau ynni arnom ledled y DU i roi cyflenwad dibynadwy o drydan i ni. Mae hynny’n golygu cymysgedd o ynni gwynt ar y tir, gwynt ar y môr, solar, niwclear, hydrogen, rhywfaint o drydan a gynhyrchir gan nwy, tonnau a llanw.

Carbon isel

Mae tyrbinau modern yn llawer mwy effeithlon ac yn dal adnodd gwynt mwy.

Over its operational lifetime, Foel Fach Wind Farm is expected to save over 2,632,967 tonnes of CO2 equivalent, when compared against electricity generated using fossil fuels.

Newid hinsawdd

Summer 2025 was the warmest summer on record in the UK3. Record-breaking temperatures and extreme weather events are becoming more frequent, with devastating effects for farming, nature and people. The Met Office states one of the main causes of the changing weather is human-induced climate change caused by greenhouse gases, such as CO2, which get released into the atmosphere when we burn fossil fuel.

Targedau Llywodraeth Cymru

Nod Llywodraeth Cymru yw cyrraedd 100% o ddefnydd trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Byddai Fferm Wynt Foel Fach yn cyfrannu’n uniongyrchol at y targedau hyn.4


[1] Llywodraeth Cymru 2025. Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2023.

[2] UCL Press. Modelling the long-term financial benefits of UK investment in wind energy generation. https://journals.uclpress.co.uk/ucloe/plugins/isolinear/article/3584/version/1

[3] Met Office https://www.metoffice.gov.uk/about-us/news-and-media/media-centre/weather-and-climate-news/2025/summer-2025-is-the-warmest-on-record-for-the-uk

[4] Llywodraeth Cymru 2025. Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2023. 2025. Energy Generation in Wales 2023.