Mae ein Polisi Preifatrwydd isod yn disgrifio sut rydym yn casglu, defnyddio, cynnal, diogelu a datgelu unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni trwy ffurflenni ar ein gwefan, neu pan fyddwch yn cysylltu â ni’n uniongyrchol trwy alwadau ffôn neu negeseuon ysgrifenedig ynghylch ein gwasanaethau a’n prosiectau. Mae “ni” ac “ein” yn golygu Fferm Wynt Foel Fach Cyfyngedig a Coriolis Energy Limited (sydd o fewn yr un grŵp o gwmnïau ac yn darparu gwasanaethau datblygu fferm wynt i Fferm Wynt Foel Fach Cyfyngedig).

Eich gwybodaeth

Dim ond pan fyddwch yn ei rhoi i ni y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol fel eich enw, swydd, enw cwmni, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.

Dim ond at ddibenion penodol y byddwn yn defnyddio’r data rydym yn ei gasglu mewn perthynas â datblygu ac adeiladu Fferm Wynt Foel Fach.

Cofrestru ar gyfer diweddariadau

Os ydych chi’n cofrestru i dderbyn diweddariadau ar Fferm Wynt Foel Fach, y wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu yw eich enw a’ch cyfeiriad e-bost.

Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen ymholiad ar dudalen Cysylltwch â Ni ein gwefan, y wybodaeth a gasglwn yw eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac unrhyw fanylion cyffredinol am yr ymholiad yr hoffech eu nodi. Rydym hefyd yn casglu eich cyfeiriad IP trwy osod cwcis.

Os caiff y blwch ei dicio i gadarnhau eich bod yn hapus i ni gysylltu â chi, byddwn yn defnyddio’ch manylion i anfon diweddariadau atoch ar gynnydd Fferm Wynt Foel Fach.

Rhesymau dros storio eich data

Mae’r wybodaeth bersonol sydd gennym ar gyfer buddiannau busnes cyfreithlon yn unig. Mae hyn yn cynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a rheoli prosiect mewn perthynas â Fferm Wynt Foel Fach a darparu diweddariadau am y prosiect a gwybodaeth ddefnyddiol arall.

Ein gwefan

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol.

Cwcis y Wefan

Cesglir data defnydd y wefan trwy gwcis i’w gweld o fewn Google Analytics. Ffeiliau testun yw cwcis a osodir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth cofnodi rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr. Defnyddir y wybodaeth hon i olrhain defnydd ymwelwyr o’r wefan ac i lunio adroddiadau ystadegol ar weithgarwch y wefan. Am ragor o wybodaeth ewch i https://ico.org.uk/for-the-public/online/cookies/.

Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis ac mae’r wefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o’ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion efallai na fydd rhai o nodweddion ein gwefan yn gweithio o ganlyniad.

Sut rydym yn storio eich data

Caiff eich data ei storio yn ein system gyfrifiadurol yn y DU a hefyd mewn darparwr gwefan trydydd parti yn y DU. Oherwydd natur cyfrifiadura cwmwl, gellir storio data ar system gyfrifiadurol sy’n cael ei rhedeg a’i rheoli gan sefydliad rhyngwladol sydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Rhannu eich data

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich data ag ESB (Electricity Supply Board) ac ymgynghorwyr dethol at ddibenion datblygu Fferm Wynt Foel Fach a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am Fferm Wynt Foel Fach.

Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti arall.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i gael mynediad at wybodaeth a gedwir amdanoch yn rhad ac am ddim. Mae gennych hawl i ofyn i ni ddiweddaru neu gywiro unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch. Mae gennych hawl i optio allan o dderbyn diweddariadau gennym a’r hawl i ofyn i ni ddileu eich manylion o’n cronfa ddata (oni bai bod angen y manylion hynny arnom am reswm busnes cyfreithlon megis cyflawni contract gyda chi). Cysylltwch â ni (gweler isod) os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn.

Cyfnod cadw a gwaredu data

Byddwn yn cadw data ar gyfer y cyfnod y mae Fferm Wynt Foel Fach yn cael ei datblygu ac am gyfnod priodol wedi hynny a fydd yn dibynnu ar y tebygolrwydd o ohebiaeth bellach yn ymwneud â Fferm Wynt Foel Fach.

Cwynion

Os teimlwch am unrhyw reswm ein bod yn defnyddio’ch gwybodaeth yn amhriodol neu’n annheg, cysylltwch â ni (gweler isod).

Gall pryderon hefyd gael eu trosglwyddo i’r awdurdod goruchwylio yn y DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/concerns/

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu rhoi ar y dudalen hon.

Sut i gysylltu â ni

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein polisi preifatrwydd neu’r data sydd gennym, gallwch gysylltu â ni drwy’r manylion isod:

Fferm Wynt Foel Fach Cyfyngedig
22-24 King Street
Maidenhead
Berkshire SL6 1EF

[email protected]