Tîm Foel Fach yn paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyn-ymgeisio
14 Awst 2025
Mae tîm y prosiect wedi bod yn brysur eleni yn parhau i gynnal asesiadau ac arolygon wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau drafft ar gyfer Fferm Wynt Foel Fach, er enghraifft:
- arolygon adaregol yn asesu presenoldeb adar, gan gynnwys y gylfinir a’r Barcud Coch
- arolygon archeolegol
- chwilota mawn i wirio am bresenoldeb a dyfnder mawn ar hyd a lled y safle
- arolygon ecolegol yn asesu cynefinoedd a phresenoldeb mamaliaid, ymlusgiaid a phryfed
- rydym wedi bod allan i eiddo preswyl allweddol ger y safle i osod offer monitro i asesu lefelau sŵn cefndir.
Ers yr ymgynghoriad anffurfiol ddiwedd y llynedd, rydym wedi parhau i siarad â phobl leol, ffermwyr, cymdogion ac aelodau etholedig. Mae’r sgyrsiau hyn wedi darparu gwybodaeth leol ac adborth defnyddiol ar ein cynlluniau.
Defnyddiwyd yr holl wybodaeth yma i wneud newidiadau i ddyluniad drafft y safle a rannwyd gennym ddiwedd y llynedd. Rydym bellach wedi cwblhau ein dyluniad drafft ac yn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol, yr ydym yn anelu at ei gynnal ym mis Tachwedd. Rhwng nawr a hynny byddwn yn ysgrifennu’r Datganiad Amgylcheddol drafft sy’n ddogfen allweddol ar gyfer y cais cynllunio.
Beth i’w ddisgwyl yn ystod yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio
Mae’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio’n broses statudol y mae’n rhaid iddi bara am o leiaf 42 diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwnnw bydd ein cais cynllunio drafft llawn ar gael i bobl ei ddarllen a gwneud sylwadau arno. Byddwn yn:
- cyhoeddi’r cais cynllunio drafft llawn ar y wefan hon
- ymgynghori ag ymgyngoreion statudol
- hysbysu trigolion lleol am yr ymgynghoriad a gwahodd trigolion i fynychu digwyddiadau ymgynghori yng Nghwmtirmynach, Sarnau a’r Bala lle bydd trigolion yn gallu gweld model cyfrifiadurol 3D o’r prosiect, siarad â’r tîm a rhoi adborth.
- darparu arddangosfa rithwir hawdd ei defnyddio a ffurflen adborth ar-lein ar y wefan hon i bobl nad ydynt yn gallu mynychu’r digwyddiadau wyneb yn wyneb
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysyllywch â ni.