Rhwng 16 Medi a 14 Hydref 2024 gwnaethom gynnal ymgynghoriad anffurfiol ar ein cynlluniau cyfnod cynnar ar gyfer Fferm Wynt Foel Fach.

Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethom ysgrifennu at drigolion sy’n byw gerllaw, cynnal digwyddiadau ymgynghori yn Neuadd Mynach a Chanolfan Bro Tegid, cynnwys deunyddiau ymgynghori ar-lein a cheisio adborth. Mae’r deunyddiau ymgynghori ar gael i’w gweld o hyd Dogfennau’r Prosiect.

Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i fynychu’r digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ac i lenwi ffurflen adborth. Rydym yn falch o fod wedi cyfarfod â llawer o drigolion yn ystod y digwyddiadau ac wedi cael swm da o adborth, sy’n ddefnyddiol iawn wrth i ni barhau i ddatblygu ein cynlluniau.

Canfyddiadau allweddol o’r ymgynghoriad anffurfiol

  • Codwyd yr effaith weledol bosibl ar Barc Cenedlaethol Eryri fel pryder. Mae’r tyrbin agosaf ar ein cynllun drafft presennol 1.9 km o ffin Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd yr Asesiad o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol yn asesu golygfeydd posibl o’r parc cenedlaethol yn ofalus ac yn ystyried unrhyw effaith bosibl ar ei statws Awyr Dywyll Rhyngwladol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ymgynghorai statudol pwysig wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau.
  • Dywedodd nifer o bobl wrthym eu bod eisiau gwybodaeth fanylach am ein cynlluniau. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad anffurfiol hwn yn gynnar yn y broses ddatblygu oherwydd ein bod eisiau rhoi gwybod i’r gymuned leol am ein cynlluniau yn gynnar yn y broses. Rydym yn parhau i gynnal asesiadau ac arolygon wrth i ni ddatblygu ein cynnig, sy’n golygu nad oes gennym yr holl ddata na’n cynllun terfynol ar hyn o bryd. Gobeithiwn fod trigolion wedi ei chael yn ddefnyddiol i ddysgu am y prosiect yn ystod y cyfnod cynnar hwn.
  • Croesawodd yr ymatebwyr fanteision posibl i’r economi leol o ran y gadwyn gyflenwi a swyddi, y gronfa budd cymunedol a’n partneriaeth cydberchnogaeth â Ripple Energy.

Y Camau Nesaf

Rydym yn parhau i gynnal asesiadau ac arolygon a datblygu ein cynlluniau. Ein nod yw cynnal yr ymgynghoriad statudol cyn ymgeisio yn haf 2025, pan fyddwn yn cyflwyno ein cynlluniau diwygiedig a’n cais cynllunio drafft.

Bydd gwefan y prosiect yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i’r prosiect symud ymlaen.

Er bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben, rydym yn croesawu adborth ac ymholiadau ar unrhyw adeg. Cysylltwch â thîm y prosiect drwy’r dudalen Cysylltwch  Ni.