Ymgynghoriad cyn-ymgeisio a gynhaliwyd ar gyfer Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach
10 Chwefror 2026
Rhwng 15 Rhagfyr 2025 a 9 Chwefror 2026, cynhaliwyd ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol ar ein cynlluniau ar gyfer Fferm Wynt arfaethedig Foel Fach, fferm wynt newydd ar dir i’r gogledd-ddwyrain o Frongoch, ger y Bala.
Yn ystod yr ymgynghoriad, gwahoddwyd adborth ar ein cais cynllunio a chynhaliwyd tri digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yng Nghwmtirmynach, Y Bala a Sarnau.
Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu’r holl adborth cyn cyflwyno ein cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).