Rhwng 16 Medi a 14 Hydref 2024, gwnaethom gynnal ymgynghoriad anffurfiol lle gwnaethom rannu ein cynlluniau cam cynnar ar gyfer Fferm Wynt Foel Fach gyda’r gymuned leol. Cynhaliwyd dau ddigwyddiad arddangos cyhoeddus, yng Nghwmtirmynach a’r Bala, lle gwahoddwyd trigolion i ddysgu am ein cynlluniau, cwrdd â’r tîm, gofyn cwestiynau a rhoi adborth. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i fynychu’r digwyddiadau, gweld y deunydd ymgynghori ar-lein a chynnig adborth. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r holl ymatebion a dderbyniwyd.

Mae’r deunyddiau ymgynghori sy’n cael eu rhannu ar hyn o bryd i’w gweld ar ein tudalen Dogfennau’r Prosiect. Ewch i’n tudalen Cynigion i weld Cwestiynau Cyffredin.

Er bod yr ymgynghoriad anffurfiol wedi dod i ben, rydym yn croesawu eich adborth a’ch ymholiadau ar unrhyw adeg. Cysylltwch â’r tîm gan ddefnyddio’r manylion ar y dudalen Cysylltwch â ni.